1 1 Michtam. I Ddafydd.0 Cadw fi, O Dduw, oherwydd llochesaf ynot ti. 2 Dywedais wrth yr ARGLWYDD, "Ti yw f'arglwydd, nid oes imi ddaioni ond ynot ti." 3 Ac am y duwiau sanctaidd sydd yn y wlad, melltith ar bob un sy'n ymhyfrydu ynddynt. 4 Amlhau gofidiau y mae'r un sy'n blysio duwiau eraill; ni chynigiaf fi waed iddynt yn ddiodoffrwm, na chymryd eu henwau ar fy ngwefusau. 5 Ti, ARGLWYDD, yw fy nghyfran a'm cwpan, ti sy'n diogelu fy rhan; 6 syrthiodd y llinynnau i mi mewn mannau dymunol, ac y mae gennyf etifeddiaeth ragorol. 7 Bendithiaf yr ARGLWYDD a roddodd gyngor i mi; yn y nos y mae fy meddyliau'n fy hyfforddi. 8 Gosodais yr ARGLWYDD o'm blaen yn wastad; am ei fod ar fy neheulaw, ni'm symudir. 9 Am hynny, llawenha fy nghalon a gorfoledda f'ysbryd, a chaiff fy nghnawd fyw'n ddiogel; 10 oherwydd ni fyddi'n gadael fy enaid i Sheol, ac ni chaiff yr un teyrngar i ti weld Pwll Distryw. 11 Dangosi i mi lwybr bywyd; yn dy bresenoldeb di y mae digonedd o lawenydd, ac yn dy ddeheulaw fwyniant bythol.