1 1 Gweddi. I Ddafydd.0 Gwrando, ARGLWYDD, gri am gyfiawnder; rho sylw i'm llef a gwrandawiad i'm gweddi oddi ar wefusau didwyll. 2 Doed fy marn oddi wrthyt ti, edryched dy lygaid ar yr hyn sy'n iawn. 3 Profaist fy nghalon a'm gwylio yn y nos, chwiliaist fi ond heb gael drygioni ynof. 4 Ni throseddodd fy ngenau fel y gwna eraill, ond fe gedwais eiriau dy wefusau. 5 Ar lwybrau'r anufudd byddai fy nghamau'n pallu, ond ar dy lwybrau di nid yw fy nhraed yn methu. 6 Gwaeddaf arnat ti am dy fod yn f'ateb, O Dduw; tro dy glust ataf, gwrando fy ngeiriau. 7 Dangos dy ffyddlondeb rhyfeddol, ti, sy'n gwaredu �'th ddeheulaw y rhai sy'n llochesu ynot rhag eu gwrthwynebwyr. 8 Cadw fi fel cannwyll dy lygad, cuddia fi dan gysgod dy adenydd 9 rhag y drygionus sy'n fy nistrywio, y gelynion sydd yn eu gwanc yn f'amgylchu. 10 Maent wedi mygu tosturi, y mae eu genau'n llefaru balchder; 11 y maent ar fy sodlau ac ar gau amdanaf, wedi gosod eu bryd ar fy mwrw i'r llawr; 12 y maent fel llew yn barod i larpio, fel llew ifanc yn llechu yn ei guddfan. 13 Cyfod, ARGLWYDD, saf yn eu herbyn a'u bwrw i lawr! �'th gleddyf gwared fy mywyd rhag y drygionus; 14 �'th law, ARGLWYDD, gwna ddiwedd arnynt, difa hwy o'u rhan yng nghanol bywyd. Llanwer eu bol �'r hyn sydd gennyt ar eu cyfer, bydded i'w plant gael digon, a chadw gweddill i'w babanod! 15 Ond byddaf fi yn fy nghyfiawnder yn gweld dy wyneb; pan ddeffroaf, digonir fi o weld dy wedd.