1 1 I'r Cyfarwyddwr: I Ddafydd, gwas yr ARGLWYDD, a lefarodd eiriau'r gerdd hon wrth yr ARGLWYDD y diwrnod y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei elynion ac o law Saul. A dywedodd:0 Caraf di, O ARGLWYDD, fy nghryfder. 2 Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, fy nghadernid a'm gwaredydd; fy Nuw yw fy nghraig lle llochesaf, fy nharian, fy amddiffynfa gadarn a'm caer. 3 Gwaeddaf ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu mawl, ac fe'm gwaredir rhag fy ngelynion. 4 Pan oedd clymau angau'n tynhau amdanaf a llifeiriant distryw yn fy nal, 5 pan oedd clymau Sheol yn f'amgylchu a maglau angau o'm blaen, 6 gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder, ac ar fy Nuw iddo fy nghynorthwyo; clywodd fy llef o'i deml, a daeth fy ngwaedd i'w glustiau. 7 Crynodd y ddaear a gwegian, ysgydwodd sylfeini'r mynyddoedd, a siglo oherwydd ei ddicter ef. 8 Cododd mwg o'i ffroenau, yr oedd t�n yn ysu o'i enau, a marwor yn cynnau o'i gwmpas. 9 Fe agorodd y ffurfafen a disgyn, ac yr oedd tywyllwch o dan ei draed. 10 Marchogodd ar gerwb a hedfan, gwibiodd ar adenydd y gwynt. 11 Gosododd o'i amgylch dywyllwch yn guddfan, a chymylau duon yn orchudd. 12 o'r disgleirdeb o'i flaen daeth allan gymylau, a chenllysg a cherrig t�n. 13 Taranodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd, a llefarodd llais y Goruchaf. 14 Bwriodd allan ei saethau yma ac acw, saethodd fellt a gwneud iddynt atsain. 15 Daeth gwaelodion y m�r i'r golwg, a dinoethwyd sylfeini'r byd, oherwydd dy gerydd di, O ARGLWYDD, a chwythiad anadl dy ffroenau. 16 Ymestynnodd o'r uchelder a'm cymryd, tynnodd fi allan o'r dyfroedd cryfion. 17 Gwaredodd fi rhag fy ngelyn nerthol, rhag y rhai sy'n fy nghas�u pan oeddent yn gryfach na mi. 18 Daethant i'm herbyn yn nydd fy argyfwng, ond bu'r ARGLWYDD yn gynhaliaeth i mi. 19 Dygodd fi allan i le agored, a'm gwaredu am ei fod yn fy hoffi. 20 Gwnaeth yr ARGLWYDD � mi yn �l fy nghyfiawnder, a thalodd i mi yn �l glendid fy nwylo. 21 Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni; 22 yr oedd ei holl gyfreithiau o'm blaen, ac ni fwriais ei ddeddfau o'r neilltu. 23 Yr oeddwn yn ddi-fai yn ei olwg, a chedwais fy hun rhag troseddu. 24 Talodd yr ARGLWYDD i mi yn �l fy nghyfiawnder, ac yn �l glendid fy nwylo yn ei olwg. 25 Yr wyt yn ffyddlon i'r ffyddlon, yn ddifeius i'r difeius, 26 ac yn bur i'r rhai pur; ond i'r cyfeiliornus yr wyt yn wyrgam. 27 Oherwydd yr wyt yn gwaredu'r rhai gostyngedig, ac yn darostwng y beilchion. 28 Ti sy'n goleuo fy llusern, ARGLWYDD; fy Nuw sy'n troi fy nhywyllwch yn ddisglair. 29 Oherwydd trwot ti y gallaf oresgyn llu; trwy fy Nuw gallaf neidio dros fur. 30 Y Duw hwn, y mae'n berffaith ei ffordd, ac y mae gair yr ARGLWYDD wedi ei brofi'n bur; y mae ef yn darian i bawb sy'n llochesu ynddo. 31 Pwy sydd Dduw ond yr ARGLWYDD? a phwy sydd graig ond ein Duw ni, 32 y Duw sy'n fy ngwregysu � nerth, ac yn gwneud fy ffordd yn ddifeius? 33 Gwna fy nhraed fel rhai ewig, a'm gosod yn gadarn ar y mynyddoedd. 34 Y mae'n dysgu i'm dwylo ryfela, i'm breichiau dynnu bwa pres. 35 Rhoist imi dy darian i'm gwaredu, a'm cynnal �'th ddeheulaw, a'm gwneud yn fawr trwy dy ofal. 36 Rhoist imi le llydan i'm camau, ac ni lithrodd fy nhraed. 37 Yr wyf yn ymlid fy ngelynion ac yn eu dal; ni ddychwelaf nes eu difetha. 38 Yr wyf yn eu trywanu fel na allant godi, ac y maent yn syrthio o dan fy nhraed. 39 Yr wyt wedi fy ngwregysu � nerth i'r frwydr, a darostwng fy ngelynion odanaf. 40 Gosodaist fy nhroed ar eu gwddf, a gwneud imi ddifetha'r rhai sy'n fy nghas�u. 41 Y maent yn gweiddi, ond nid oes gwaredydd, yn galw ar yr ARGLWYDD, ond nid yw'n eu hateb. 42 Fe'u maluriaf cyn faned � llwch o flaen y gwynt, a'u sathru fel llaid ar y strydoedd. 43 Yr wyt yn fy ngwaredu rhag ymrafael pobl, ac yn fy ngwneud yn ben ar y cenhedloedd; pobl nad oeddwn yn eu hadnabod sy'n weision i mi. 44 Pan glywant amdanaf, maent yn ufuddhau i mi, ac estroniaid sy'n ymgreinio o'm blaen. 45 Y mae estroniaid yn gwangalonni, ac yn dyfod dan grynu o'u lloches. 46 Byw yw'r ARGLWYDD, bendigedig yw fy nghraig; dyrchafedig fyddo'r Duw sy'n fy ngwaredu, 47 y Duw sy'n rhoi imi ddialedd, ac yn darostwng pobloedd odanaf, 48 sy'n fy ngwaredu rhag fy ngelynion, yn fy nyrchafu uwchlaw fy ngwrthwynebwyr, ac yn fy arbed rhag y gorthrymwyr. 49 Oherwydd hyn, clodforaf di, O ARGLWYDD, ymysg y cenhedloedd, a chanaf fawl i'th enw. 50 Y mae'n gwaredu ei frenin yn helaeth, ac yn cadw'n ffyddlon i'w eneiniog, i Ddafydd ac i'w had am byth.