Welsh

Psalms

19

1 1 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 Y mae'r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw, a'r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo. 2 Y mae dydd yn llefaru wrth ddydd, a nos yn cyhoeddi gwybodaeth wrth nos. 3 Nid oes iaith na geiriau ganddynt, ni chlywir eu llais; 4 eto fe � eu sain allan drwy'r holl ddaear a'u lleferydd hyd eithafoedd byd. Ynddynt gosododd babell i'r haul, 5 sy'n dod allan fel priodfab o'i ystafell, yn llon fel campwr yn barod i redeg cwrs. 6 O eithaf y nefoedd y mae'n codi, a'i gylch hyd yr eithaf arall; ac nid oes dim yn cuddio rhag ei wres. 7 Y mae cyfraith yr ARGLWYDD yn berffaith, yn adfywio'r enaid; y mae tystiolaeth yr ARGLWYDD yn sicr, yn gwneud y syml yn ddoeth; 8 y mae deddfau'r ARGLWYDD yn gywir, yn llawenhau'r galon; y mae gorchymyn yr ARGLWYDD yn bur, yn goleuo'r llygaid; 9 y mae ofn yr ARGLWYDD yn l�n, yn para am byth; y mae barnau'r ARGLWYDD yn wir, yn gyfiawn bob un. 10 Mwy dymunol ydynt nag aur, na llawer o aur coeth, a melysach na m�l, ac na diferion diliau m�l. 11 Trwyddynt hwy hefyd rhybuddir fi, ac o'u cadw y mae gwobr fawr. 12 Pwy sy'n dirnad ei gamgymeriadau? Glanha fi oddi wrth fy meiau cudd. 13 Cadw dy was oddi wrth bechodau beiddgar, rhag iddynt gael y llaw uchaf arnaf. Yna byddaf yn ddifeius, ac yn ddieuog o bechod mawr. 14 Bydded geiriau fy ngenau'n dderbyniol gennyt, a myfyrdod fy nghalon yn gymeradwy i ti, O ARGLWYDD, fy nghraig a'm prynwr.