Welsh

Psalms

20

1 1 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 Bydded i'r ARGLWYDD dy ateb yn nydd cyfyngder, ac i enw Duw Jacob dy amddiffyn. 2 Bydded iddo anfon cymorth i ti o'r cysegr, a'th gynnal o Seion. 3 Bydded iddo gofio dy holl offrymau, ac edrych yn ffafriol ar dy boethoffrymau. Sela. 4 Bydded iddo roi i ti dy ddymuniad, a chyflawni dy holl gynlluniau. 5 Bydded inni orfoleddu yn dy waredigaeth, a chodi banerau yn enw ein Duw. Bydded i'r ARGLWYDD roi iti'r cyfan a ddeisyfi. 6 Yn awr fe wn fod yr ARGLWYDD yn gwaredu ei eneiniog; y mae'n ei ateb o'i nefoedd sanctaidd trwy waredu'n nerthol �'i ddeheulaw. 7 Ymffrostia rhai mewn cerbydau ac eraill mewn meirch, ond fe ymffrostiwn ni yn enw'r ARGLWYDD ein Duw. 8 Y maent hwy'n crynu ac yn syrthio, ond yr ydym ni'n codi ac yn sefyll i fyny. 9 O ARGLWYDD, gwareda'r brenin; ateb ni pan fyddwn yn galw.