1 1 Salm. I Ddafydd.0 Eiddo'r ARGLWYDD yw'r ddaear a'i llawnder, y byd a'r rhai sy'n byw ynddo; 2 oherwydd ef a'i sylfaenodd ar y moroedd a'i sefydlu ar yr afonydd. 3 Pwy a esgyn i fynydd yr ARGLWYDD a phwy a saif yn ei le sanctaidd? 4 Y gl�n ei ddwylo a'r pur o galon, yr un sydd heb osod ei feddwl ar dwyll a heb dyngu'n gelwyddog. 5 Fe dderbyn fendith gan yr ARGLWYDD a chyfiawnder gan Dduw ei iachawdwriaeth. 6 Dyma'r genhedlaeth sy'n ei geisio, sy'n ceisio wyneb Duw Jacob. Sela. 7 Codwch eich pennau, O byrth! Ymddyrchefwch, O ddrysau tragwyddol! i frenin y gogoniant ddod i mewn. 8 Pwy yw'r brenin gogoniant hwn? Yr ARGLWYDD, cryf a chadarn, yr ARGLWYDD, cadarn mewn rhyfel. 9 Codwch eich pennau, O byrth! Ymddyrchefwch, O ddrysau tragwyddol! i frenin y gogoniant ddod i mewn. 10 Pwy yw'r brenin gogoniant hwn? ARGLWYDD y Lluoedd, ef yw brenin y gogoniant. Sela.