Welsh

Psalms

25

1 1 I Ddafydd.0 Atat ti, ARGLWYDD, y dyrchafaf fy enaid; 2 O fy Nuw, ynot ti yr wyf yn ymddiried; paid � dwyn cywilydd arnaf, paid � gadael i'm gelynion orfoleddu o'm hachos. 3 Ni ddaw cywilydd i'r rhai sy'n gobeithio ynot ti, ond fe ddaw i'r rhai sy'n llawn brad heb achos. 4 Gwna imi wybod dy ffyrdd, O ARGLWYDD, hyffordda fi yn dy lwybrau. 5 Arwain fi yn dy wirionedd a dysg fi, oherwydd ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y b�m yn disgwyl trwy'r dydd. 6 O ARGLWYDD, cofia dy drugaredd a'th ffyddlondeb, oherwydd y maent erioed. 7 Paid � chofio pechodau fy ieuenctid na'm gwrthryfel, ond yn dy gariad cofia fi, er mwyn dy ddaioni, O ARGLWYDD. 8 Y mae'r ARGLWYDD yn dda ac uniawn, am hynny fe ddysg y ffordd i bechaduriaid. 9 Fe arwain y gostyngedig yn yr hyn sy'n iawn, a dysgu ei ffordd i'r gostyngedig. 10 Y mae holl lwybrau'r ARGLWYDD yn llawn cariad a gwirionedd i'r rhai sy'n cadw ei gyfamod a'i gyngor. 11 Er mwyn dy enw, ARGLWYDD, maddau fy nghamwedd, oherwydd y mae'n fawr. 12 Pwy bynnag sy'n ofni'r ARGLWYDD, fe'i dysg pa ffordd i'w dewis; 13 fe gaiff fyw'n ffyniannus, a bydd ei blant yn etifeddu'r tir. 14 Caiff y rhai sy'n ei ofni gyfeillach yr ARGLWYDD a hefyd ei gyfamod i'w dysgu. 15 Y mae fy llygaid yn wastad ar yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n rhyddhau fy nhraed o'r rhwyd. 16 Tro ataf, a bydd drugarog wrthyf, oherwydd unig ac anghenus wyf fi. 17 Esmwyth� gyfyngder fy nghalon, a dwg fi allan o'm hadfyd. 18 Edrych ar fy nhrueni a'm gofid, a maddau fy holl bechodau. 19 Gw�l mor niferus yw fy ngelynion ac fel y maent yn fy nghas�u � chas perffaith. 20 Cadw fi a gwared fi, na ddoed cywilydd arnaf, oherwydd ynot ti yr wyf yn llochesu. 21 Bydd cywirdeb ac uniondeb yn fy niogelu, oherwydd gobeithiais ynot ti. 22 O Dduw, gwareda Israel o'i holl gyfyngderau.