1 1 I Ddafydd.0 Barna fi, O ARGLWYDD, oherwydd rhodiais yn gywir ac ymddiried yn yr ARGLWYDD heb ballu. 2 Chwilia fi, ARGLWYDD, a phrofa fi, rho brawf ar fy nghalon a'm meddwl. 3 Oherwydd y mae dy ffyddlondeb o flaen fy llygaid, ac yr wyf yn rhodio yn dy wirionedd. 4 Ni f�m yn eistedd gyda rhai diwerth, nac yn cyfeillachu gyda rhagrithwyr. 5 Yr wyf yn cas�u cwmni'r rhai drwg, ac nid wyf yn eistedd gyda'r drygionus. 6 Golchaf fy nwylo am fy mod yn ddieuog, ac amgylchaf dy allor, O ARGLWYDD, 7 a chanu'n uchel mewn diolchgarwch ac adrodd dy holl ryfeddodau. 8 O ARGLWYDD, yr wyf yn caru'r tu375? lle'r wyt yn trigo, y man lle mae dy ogoniant yn aros. 9 Paid �'m rhoi gyda phechaduriaid, na'm bywyd gyda rhai gwaedlyd, 10 rhai sydd � chamwri ar eu dwylo a'u deheulaw'n llawn o lwgr-wobrwyon. 11 Ond amdanaf fi, yr wyf yn rhodio'n gywir; gwareda fi a bydd drugarog wrthyf. 12 Y mae fy nhraed yn gadarn mewn uniondeb; bendithiaf yr ARGLWYDD yn y gynulleidfa.