Welsh

Psalms

27

1 1 I Ddafydd.0 Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a'm gwaredigaeth, rhag pwy yr ofnaf? Yr ARGLWYDD yw cadernid fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf? 2 Pan fydd rhai drwg yn cau amdanaf i'm hysu i'r byw, hwy, fy ngwrthwynebwyr a'm gelynion, fydd yn baglu ac yn syrthio. 3 Pe bai byddin yn gwersyllu i'm herbyn, nid ofnai fy nghalon; pe d�i rhyfel ar fy ngwarthaf, eto, fe fyddwn yn hyderus. 4 Un peth a ofynnais gan yr ARGLWYDD, dyma'r wyf yn ei geisio: cael byw yn nhu375?'r ARGLWYDD holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar hawddgarwch yr ARGLWYDD ac i ymofyn yn ei deml. 5 Oherwydd fe'm ceidw yn ei gysgod yn nydd adfyd, a'm cuddio i mewn yn ei babell, a'm codi ar graig. 6 Ac yn awr, fe gyfyd fy mhen goruwch fy ngelynion o'm hamgylch; ac offrymaf finnau yn ei deml aberthau llawn gorfoledd; canaf, canmolaf yr ARGLWYDD. 7 Gwrando arnaf, ARGLWYDD, pan lefaf; bydd drugarog wrthyf, ac ateb fi. 8 Dywedodd fy nghalon amdanat, "Ceisia ei wyneb"; am hynny ceisiaf dy wyneb, O ARGLWYDD. 9 Paid � chuddio dy wyneb oddi wrthyf, na throi ymaith dy was mewn dicter, oherwydd buost yn gymorth i mi; paid �'m gwrthod na'm gadael, O Dduw, fy Ngwaredwr. 10 Pe bai fy nhad a'm mam yn cefnu arnaf, byddai'r ARGLWYDD yn fy nerbyn. 11 Dysg i mi dy ffordd, O ARGLWYDD, arwain fi ar hyd llwybr union, oherwydd fy ngwrthwynebwyr. 12 Paid �'m gadael i fympwy fy ngelynion, oherwydd cododd yn f'erbyn dystion celwyddog sy'n bygwth trais. 13 Yr wyf yn sicr y caf weld daioni'r ARGLWYDD yn nhir y rhai byw. 14 Disgwyl wrth yr ARGLWYDD, bydd gryf a gwrol dy galon a disgwyl wrth yr ARGLWYDD.