1 1 I Ddafydd.0 Arnat ti, ARGLWYDD, y gwaeddaf; fy nghraig, paid � thewi tuag ataf � rhag, os byddi'n ddistaw, imi fod fel y rhai sy'n disgyn i'r pwll. 2 Gwrando ar lef fy ngweddi pan waeddaf arnat am gymorth, pan godaf fy nwylo tua'th gysegr sanctaidd. 3 Paid �'m cipio ymaith gyda'r drygionus a chyda gwneuthurwyr drygioni, rhai sy'n siarad yn deg �'u cymdogion ond sydd � chynnen yn eu calon. 4 T�l iddynt am eu gweithredoedd ac am ddrygioni eu gwaith; t�l iddynt am yr hyn a wnaeth eu dwylo, rho eu haeddiant iddynt. 5 Am nad ydynt yn ystyried gweithredoedd yr ARGLWYDD na gwaith ei ddwylo ef, bydded iddo'u dinistrio a pheidio �'u hailadeiladu. 6 Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD am iddo wrando ar lef fy ngweddi. 7 Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm tarian; ynddo yr ymddiried fy nghalon; yn sicr caf gymorth, a llawenycha fy nghalon, a rhof foliant iddo ar g�n. 8 Y mae'r ARGLWYDD yn nerth i'w bobl ac yn gaer gwaredigaeth i'w eneiniog. 9 Gwareda dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth; bugeilia hwy a'u cario am byth.