Welsh

Psalms

29

1 1 Salm. I Ddafydd.0 Rhowch i'r ARGLWYDD, fodau nefol, rhowch i'r ARGLWYDD ogoniant a nerth. 2 Rhowch i'r ARGLWYDD ogoniant ei enw; ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd. 3 Y mae llais yr ARGLWYDD yn uwch na'r dyfroedd; Duw'r gogoniant sy'n taranu; y mae'r ARGLWYDD yn uwch na'r dyfroedd cryfion! 4 Y mae llais yr ARGLWYDD yn nerthol, y mae llais yr ARGLWYDD yn ogoneddus. 5 Y mae llais yr ARGLWYDD yn dryllio cedrwydd; dryllia'r ARGLWYDD gedrwydd Lebanon. 6 Gwna i Lebanon lamu fel llo, a Sirion fel ych ifanc. 7 Y mae llais yr ARGLWYDD yn fflachio'n fflamau t�n. 8 Y mae llais yr ARGLWYDD yn gwneud i'r anialwch grynu; gwna'r ARGLWYDD i anialwch Cades grynu. 9 Y mae llais yr ARGLWYDD yn gwneud i'r ewigod lydnu, ac yn prysuro geni'r llwdn; yn ei deml dywed pawb, "Gogoniant." 10 Y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu uwch y llifeiriant, y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu'n frenin byth. 11 Rhodded yr ARGLWYDD nerth i'w bobl! Bendithied yr ARGLWYDD ei bobl � heddwch!