Welsh

Psalms

32

1 1 I Ddafydd. Masc�l.0 Gwyn ei fyd y sawl y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod. 2 Gwyn ei fyd y sawl nad yw'r ARGLWYDD yn cyfrif ei fai yn ei erbyn, ac nad oes dichell yn ei ysbryd. 3 Tra oeddwn yn ymatal, yr oedd fy esgyrn yn darfod, a minnau'n cwyno ar hyd y dydd. 4 Yr oedd dy law yn drwm arnaf ddydd a nos; sychwyd fy nerth fel gan wres haf. Sela. 5 Yna, bu imi gydnabod fy mhechod wrthyt, a pheidio � chuddio fy nrygioni; dywedais, "Yr wyf yn cyffesu fy mhechodau i'r ARGLWYDD"; a bu i tithau faddau euogrwydd fy mhechod. Sela. 6 Am hynny fe wedd�a pob un ffyddlon arnat ti yn nydd cyfyngder, a phan ddaw llifeiriant o ddyfroedd mawr, ni fyddant yn cyrraedd ato ef. 7 Yr wyt ti'n gysgod i mi; cedwi fi rhag cyfyngder; amgylchi fi � chaneuon gwaredigaeth. Sela. 8 Hyfforddaf di a'th ddysgu yn y ffordd a gymeri; fe gadwaf fy ngolwg arnat. 9 Paid � bod fel march neu ful direswm y mae'n rhaid wrth ffrwyn a genfa i'w dofi cyn y d�nt atat. 10 Daw poenau lawer i'r drygionus; ond am y sawl sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD, bydd ffyddlondeb yn ei amgylchu. 11 Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, a gorfoleddwch, rai cyfiawn; canwch yn uchel, pob un o galon gywir.