1 Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, chwi rai cyfiawn; i'r rhai uniawn gweddus yw moliant. 2 Molwch yr ARGLWYDD �'r delyn, canwch salmau iddo �'r offeryn dectant; 3 canwch iddo g�n newydd, tynnwch y tannau'n dda, rhowch floedd. 4 Oherwydd gwir yw gair yr ARGLWYDD, ac y mae ffyddlondeb yn ei holl weithredoedd. 5 Y mae'n caru cyfiawnder a barn; y mae'r ddaear yn llawn o ffyddlondeb yr ARGLWYDD. 6 Trwy air yr ARGLWYDD y gwnaed y nefoedd, a'i holl lu trwy anadl ei enau. 7 Casglodd y m�r fel du373?r mewn potel, a rhoi'r dyfnderoedd mewn ystordai. 8 Bydded i'r holl ddaear ofni'r ARGLWYDD, ac i holl drigolion y byd arswydo rhagddo. 9 Oherwydd llefarodd ef, ac felly y bu; gorchmynnodd ef, a dyna a safodd. 10 Gwna'r ARGLWYDD gyngor y cenhedloedd yn ddim, a difetha gynlluniau pobloedd. 11 Ond saif cyngor yr ARGLWYDD am byth, a'i gynlluniau dros yr holl genedlaethau. 12 Gwyn ei byd y genedl y mae'r ARGLWYDD yn Dduw iddi, y bobl a ddewisodd yn eiddo iddo'i hun. 13 Y mae'r ARGLWYDD yn edrych i lawr o'r nefoedd, ac yn gweld pawb oll; 14 o'r lle y triga y mae'n gwylio holl drigolion y ddaear. 15 Ef sy'n llunio meddwl pob un ohonynt, y mae'n deall popeth a wn�nt. 16 Nid gan fyddin gref y gwaredir brenin, ac nid � nerth mawr yr achubir rhyfelwr. 17 Ofer ymddiried mewn march am waredigaeth; er ei holl gryfder ni all roi ymwared. 18 Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y rhai a'i hofna, ar y rhai sy'n disgwyl wrth ei ffyddlondeb, 19 i'w gwaredu rhag marwolaeth a'u cadw'n fyw yng nghanol newyn. 20 Yr ydym yn disgwyl am yr ARGLWYDD; ef yw ein cymorth a'n tarian. 21 Y mae ein calon yn llawenychu ynddo am inni ymddiried yn ei enw sanctaidd. 22 O ARGLWYDD, dangos dy ffyddlondeb tuag atom, fel yr ydym wedi gobeithio ynot.