Welsh

Psalms

42

1 1 I'r Cyfarwyddwr: Masc�l. I feibion Cora.0 Fel y dyhea ewig am ddyfroedd rhedegog, felly y dyhea fy enaid amdanat ti, O Dduw. 2 Y mae fy enaid yn sychedu am Dduw, am y Duw byw; pa bryd y dof ac ymddangos ger ei fron? 3 Bu fy nagrau'n fwyd imi ddydd a nos, pan ofynnent imi drwy'r dydd, "Ple mae dy Dduw?" 4 Tywalltaf fy enaid mewn gofid wrth gofio hyn � fel yr awn gyda thyrfa'r mawrion i du375? Dduw yng nghanol banllefau a moliant, torf yn cadw gu373?yl. 5 Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid, ac mor gythryblus o'm mewn! Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef, fy Ngwaredydd a'm Duw. 6 Y mae fy enaid yn ddarostyngedig ynof; am hynny, meddyliaf amdanat ti o dir yr Iorddonen a Hermon ac o Fynydd Misar. 7 Geilw dyfnder ar ddyfnder yn su373?n dy raeadrau; y mae dy f�r a'th donnau wedi llifo trosof. 8 Liw dydd y mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn ei ffyddlondeb, a liw nos y mae ei g�n gyda mi, gweddi ar Dduw fy mywyd. 9 Dywedaf wrth Dduw, fy nghraig, "Pam yr anghofiaist fi? Pam y rhodiaf mewn galar, wedi fy ngorthrymu gan y gelyn?" 10 Fel pe'n dryllio fy esgyrn, y mae fy ngelynion yn fy ngwawdio, ac yn dweud wrthyf trwy'r dydd, "Ple mae dy Dduw?" 11 Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid, ac mor gythryblus o'm mewn! Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef, fy Ngwaredydd a'm Duw.