1 Cymer fy mhlaid, O Dduw, ac amddiffyn fy achos rhag pobl annheyrngar; gwared fi rhag dynion twyllodrus ac anghyfiawn, 2 oherwydd ti, O Dduw, yw fy amddiffyn. Pam y gwrthodaist fi? Pam y rhodiaf mewn galar, wedi fy ngorthrymu gan y gelyn? 3 Anfon dy oleuni a'th wirionedd, bydded iddynt fy arwain, bydded iddynt fy nwyn i'th fynydd sanctaidd ac i'th drigfan. 4 Yna dof at allor Duw, at Dduw fy llawenydd; llawenychaf a'th foliannu �'r delyn, O Dduw, fy Nuw. 5 Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid, ac mor gythryblus o'm mewn! Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef, fy Ngwaredydd a'm Duw.