1 1 C�n. Salm. I feibion Cora.0 Mawr yw'r ARGLWYDD a theilwng iawn o fawl yn ninas ein Duw, ei fynydd sanctaidd. 2 Teg o uchder, llawenydd yr holl ddaear, yw Mynydd Seion, ar lechweddau'r Gogledd, dinas y Brenin Mawr. 3 Oddi mewn i'w cheyrydd y mae Duw wedi ei ddangos ei hun yn amddiffynfa. 4 Wele'r brenhinoedd wedi ymgynnull ac wedi dyfod at ei gilydd; 5 ond pan welsant, fe'u synnwyd, fe'u brawychwyd nes peri iddynt ffoi; 6 daeth dychryn arnynt yno, a gwewyr, fel gwraig yn esgor, 7 fel pan fo gwynt y dwyrain yn dryllio llongau Tarsis. 8 Fel y clywsom, felly hefyd y gwelsom yn ninas ARGLWYDD y Lluoedd, yn ninas ein Duw ni a gynhelir gan Dduw am byth. Sela. 9 O Dduw, yr ydym wedi portreadu dy ffyddlondeb yng nghanol dy deml. 10 Fel y mae dy enw, O Dduw, felly y mae dy fawl yn ymestyn hyd derfynau'r ddaear. Y mae dy ddeheulaw'n llawn o gyfiawnder; 11 bydded i Fynydd Seion lawenhau. Bydded i drefi Jwda orfoleddu oherwydd dy farnedigaethau. 12 Ymdeithiwch o gwmpas Jerwsalem, ewch o'i hamgylch, rhifwch ei thyrau, 13 sylwch ar ei magwyrydd, ewch trwy ei chaerau, fel y galloch ddweud wrth yr oes sy'n codi, 14 "Dyma Dduw! Y mae ein Duw ni hyd byth bythoedd, fe'n harwain yn dragywydd."