Welsh

Psalms

49

1 1 I'r Cyfarwyddwr: i feibion Cora. Salm.0 Clywch hyn, yr holl bobloedd, gwrandewch, holl drigolion byd, 2 yn wreng a bonedd, yn gyfoethog a thlawd. 3 Llefara fy ngenau ddoethineb, a bydd myfyrdod fy nghalon yn ddeallus. 4 Gogwyddaf fy nghlust at ddihareb, a datgelaf fy nychymyg �'r delyn. 5 Pam yr ofnaf yn nyddiau adfyd, pan yw drygioni fy nisodlwyr o'm cwmpas, 6 rhai sy'n ymddiried yn eu golud ac yn ymffrostio yn nigonedd eu cyfoeth? 7 Yn wir, ni all neb ei waredu ei hun na thalu iawn i Dduw � 8 oherwydd rhy uchel yw pris ei fywyd, ac ni all byth ei gyrraedd � 9 iddo gael byw am byth a pheidio � gweld Pwll Distryw. 10 Ond gw�l fod y doethion yn marw, fod yr ynfyd a'r dwl yn trengi, ac yn gadael eu cyfoeth i eraill. 11 Eu bedd yw eu cartref bythol, eu trigfan dros y cenedlaethau, er iddynt gael tiroedd i'w henwau. 12 Ni all neb aros mewn rhwysg; y mae fel yr anifeiliaid sy'n darfod. 13 Dyma yw tynged yr ynfyd, a diwedd y rhai sy'n cymeradwyo eu geiriau. Sela. 14 Fel defaid y tynghedir hwy i Sheol; angau fydd yn eu bugeilio; disgynnant yn syth i'r bedd, a bydd eu ffurf yn darfod; Sheol fydd eu cartref. 15 Ond bydd Duw'n gwaredu fy mywyd ac yn fy nghymryd o afael Sheol. Sela. 16 Paid ag ofni pan ddaw rhywun yn gyfoethog a phan gynydda golud ei du375?, 17 oherwydd ni chymer ddim pan fo'n marw, ac nid � ei gyfoeth i lawr i'w ganlyn. 18 Er iddo yn ei fywyd ei ystyried ei hun yn ddedwydd, a bod pobl yn ei ganmol am iddo wneud yn dda, 19 fe � at genhedlaeth ei hynafiaid, ac ni w�l oleuni byth mwy. 20 Ni all neb aros mewn rhwysg; y mae fel yr anifeiliaid sy'n darfod.