1 1 Salm. I Asaff.0 Duw y duwiau, yr ARGLWYDD, a lefarodd; galwodd y ddaear o godiad haul hyd ei fachlud. 2 O Seion, berffaith ei phrydferthwch, y llewyrcha Duw. 3 Fe ddaw ein Duw, ac ni fydd ddistaw; bydd t�n yn ysu o'i flaen, a thymestl fawr o'i gwmpas. 4 Y mae'n galw ar y nefoedd uchod, ac ar y ddaear, er mwyn barnu ei bobl: 5 "Casglwch ataf fy ffyddloniaid, a wnaeth gyfamod � mi trwy aberth." 6 Bydd y nefoedd yn cyhoeddi ei gyfiawnder, oherwydd Duw ei hun sydd farnwr. Sela. 7 "Gwrandewch, fy mhobl, a llefaraf; dygaf dystiolaeth yn dy erbyn, O Israel; myfi yw Duw, dy Dduw di. 8 Ni cheryddaf di am dy aberthau, oherwydd y mae dy boethoffrymau'n wastad ger fy mron. 9 Ni chymeraf fustach o'th du375?, na bychod geifr o'th gorlannau; 10 oherwydd eiddof fi holl fwystfilod y goedwig, a'r gwartheg ar fil o fryniau. 11 Yr wyf yn adnabod holl adar yr awyr, ac eiddof fi holl greaduriaid y maes. 12 Pe bawn yn newynu, ni ddywedwn wrthyt ti, oherwydd eiddof fi'r byd a'r hyn sydd ynddo. 13 A fwyt�f fi gig eich teirw, neu yfed gwaed eich bychod geifr? 14 Rhowch i Dduw offrymau diolch, a thalwch eich addunedau i'r Goruchaf. 15 Os gelwi arnaf yn nydd cyfyngder fe'th waredaf, a byddi'n fy anrhydeddu." 16 Ond wrth y drygionus fe ddywed Duw, "Pa hawl sydd gennyt i adrodd fy neddfau, ac i gymryd fy nghyfamod ar dy wefusau? 17 Yr wyt yn cas�u disgyblaeth ac yn bwrw fy ngeiriau o'th �l. 18 Os gweli leidr, fe ei i'w ganlyn, a bwrw dy goel gyda godinebwyr. 19 Y mae dy enau'n ymollwng i ddrygioni, a'th dafod yn nyddu twyll. 20 Yr wyt yn parhau i dystio yn erbyn dy frawd, ac yn enllibio mab dy fam. 21 Gwnaethost y pethau hyn, b�m innau ddistaw; tybiaist dithau fy mod fel ti dy hun, ond ceryddaf di, a dwyn achos yn dy erbyn. 22 "Ystyriwch hyn, chwi sy'n anghofio Duw, rhag imi eich darnio heb neb i arbed. 23 Y sawl sy'n cyflwyno offrymau diolch sy'n fy anrhydeddu, ac i'r sawl sy'n dilyn fy ffordd y dangosaf iachawdwriaeth Duw."