Welsh

Psalms

51

1 1 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd, pan ddaeth y proffwyd Nathan ato wedi iddo fynd at Bathseba.0 Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, yn �l dy ffyddlondeb; yn �l dy fawr dosturi dilea fy nhroseddau; 2 golch fi'n l�n o'm drygioni, a glanha fi o'm pechod. 3 Oherwydd gwn am fy nhroseddau, ac y mae fy mhechod yn wastad gyda mi. 4 Yn dy erbyn di, ti yn unig, y pechais a gwneud yr hyn a ystyri'n ddrwg, fel dy fod yn gyfiawn yn dy ddedfryd, ac yn gywir yn dy farn. 5 Wele, mewn drygioni y'm ganwyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy mam. 6 Wele, yr wyt yn dymuno gwirionedd oddi mewn; felly dysg imi ddoethineb yn y galon. 7 Pura fi ag isop fel y byddaf l�n; golch fi fel y byddaf wynnach nag eira. 8 P�r imi glywed gorfoledd a llawenydd, fel y bo i'r esgyrn a ddrylliaist lawenhau. 9 Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau, a dilea fy holl euogrwydd. 10 Crea galon l�n ynof, O Dduw, rho ysbryd newydd cadarn ynof. 11 Paid �'m bwrw ymaith oddi wrthyt, na chymryd dy ysbryd sanctaidd oddi arnaf. 12 Dyro imi eto orfoledd dy iachawdwriaeth, a chynysgaedda fi ag ysbryd ufudd. 13 Dysgaf dy ffyrdd i droseddwyr, fel y dychwelo'r pechaduriaid atat. 14 Gwared fi rhag gwaed, O Dduw, Duw fy iachawdwriaeth, ac fe g�n fy nhafod am dy gyfiawnder. 15 Arglwydd, agor fy ngwefusau, a bydd fy ngenau yn mynegi dy foliant. 16 Oherwydd nid wyt yn ymhyfrydu mewn aberth; pe dygwn boethoffrymau, ni fyddit fodlon. 17 Aberthau Duw yw ysbryd drylliedig; calon ddrylliedig a churiedig ni ddirmygi, O Dduw. 18 Gwna ddaioni i Seion yn dy ras; adeilada furiau Jerwsalem. 19 Yna fe ymhyfrydi mewn aberthau cywir � poethoffrwm ac aberth llosg � yna fe aberthir bustych ar dy allor.