Welsh

Psalms

5

1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar ffliwtiau. Salm. I Ddafydd.0 Gwrando ar fy ngeiriau, ARGLWYDD, ystyria fy nghwynfan; 2 clyw fy nghri am gymorth, fy Mrenin a'm Duw. 3 Arnat ti y gwedd�af, ARGLWYDD; yn y bore fe glywi fy llais. Yn y bore paratoaf ar dy gyfer, ac fe ddisgwyliaf. 4 Oherwydd nid wyt Dduw sy'n hoffi drygioni, ni chaiff y drwg aros gyda thi, 5 ni all y trahaus sefyll o'th flaen. Yr wyt yn cas�u'r holl wneuthurwyr drygioni 6 ac yn difetha'r rhai sy'n dweud celwydd; ffieiddia'r ARGLWYDD un gwaedlyd a thwyllodrus. 7 Ond oherwydd dy gariad mawr, dof fi i'th du375?, plygaf yn dy deml sanctaidd mewn parch i ti. 8 ARGLWYDD, arwain fi yn dy gyfiawnder oherwydd fy ngelynion, gwna dy ffordd yn union o'm blaen. 9 Oherwydd nid oes coel ar eu geiriau, y mae dinistr o'u mewn; bedd agored yw eu llwnc, a'u tafod yn llawn gweniaith. 10 Dwg gosb arnynt, O Dduw, bydded iddynt syrthio trwy eu cynllwynion; bwrw hwy ymaith yn eu holl bechodau am iddynt wrthryfela yn dy erbyn. 11 Ond bydded i bawb sy'n llochesu ynot ti lawenhau, a chanu mewn llawenydd yn wastad; bydd yn amddiffyn dros y rhai sy'n caru dy enw, fel y bydd iddynt orfoleddu ynot ti. 12 Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn bendithio'r cyfiawn, ac y mae dy ffafr yn ei amddiffyn fel tarian.