1 1 I'r Cyfarwyddwr: ag offerynnau llinynnol, ar Seminith. Salm. I Ddafydd.0 ARGLWYDD, paid �'m ceryddu yn dy ddig, paid �'m cosbi yn dy lid. 2 Bydd drugarog wrthyf, O ARGLWYDD, oherwydd yr wyf yn llesg; iach� fi, ARGLWYDD, oherwydd brawychwyd fy esgyrn, 3 y mae fy enaid mewn arswyd mawr. Tithau, ARGLWYDD, am ba hyd? 4 Dychwel, ARGLWYDD, gwared fy enaid; achub fi er mwyn dy ffyddlondeb. 5 Oherwydd nid oes cofio amdanat ti yn angau; pwy sy'n dy foli di yn Sheol? 6 Yr wyf wedi diffygio gan fy nghwynfan; bob nos y mae fy ngwely'n foddfa, trochaf fy ngobennydd �'m dagrau. 7 Pylodd fy llygaid gan ofid, a phallu oherwydd fy holl elynion. 8 Ewch ymaith oddi wrthyf, holl wneuthurwyr drygioni, oherwydd clywodd yr ARGLWYDD fi'n wylo. 9 Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar fy neisyfiad, ac y mae'r ARGLWYDD yn derbyn fy ngweddi. 10 Bydded cywilydd a dryswch i'm holl elynion; tr�nt yn �l a'u cywilyddio'n sydyn.