1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Mahalath. Masc�l. I Ddafydd.0 Dywed yr ynfyd yn ei galon, "Nid oes Duw." Gwn�nt weithredoedd llygredig a ffiaidd; nid oes un a wna ddaioni. 2 Edrychodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd ar ddynolryw, i weld a oes rhywun yn gwneud yn ddoeth ac yn ceisio Duw. 3 Ond y mae pawb ar gyfeiliorn, ac mor llygredig �'i gilydd; nid oes un a wna ddaioni, nac oes, dim un. 4 Oni ddarostyngir y gwneuthurwyr drygioni sy'n llyncu fy mhobl fel llyncu bwyd, ac sydd heb alw ar yr ARGLWYDD? 5 Yno y byddant mewn dychryn mawr, dychryn na fu ei debyg. Y mae Duw yn gwasgaru esgyrn yr annuwiol; daw cywilydd arnynt am i Dduw eu gwrthod. 6 O na dd�i gwaredigaeth i Israel o Seion! Pan adfer yr ARGLWYDD lwyddiant i'w bobl, fe lawenha Jacob, fe orfoledda Israel.