Welsh

Psalms

54

1 1 I'r Cyfarwyddwr: gydag offerynnau llinynnol. Masc�l. I Ddafydd, pan ddaeth y Siffiaid at Saul a dweud, "Y mae Dafydd yn cuddio yn ein mysg."0 O Dduw, gwareda fi trwy dy enw, a thrwy dy nerth cyfiawnha fi. 2 O Dduw, gwrando fy ngweddi, rho glust i eiriau fy ngenau. 3 Oherwydd cododd gwu375?r trahaus yn fy erbyn, ac y mae gwu375?r didostur yn ceisio fy mywyd; nid ydynt yn meddwl am Dduw. Sela. 4 Wele, Duw yw fy nghynorthwywr, fy Arglwydd yw cynhaliwr fy mywyd. 5 Bydded i ddrygioni ddychwelyd ar fy ngelynion! Trwy dy wirionedd diddyma hwy. 6 Aberthaf yn ewyllysgar i ti; clodforaf dy enw, O ARGLWYDD, oherwydd da yw; 7 oherwydd gwaredodd fi o bob cyfyngder, a gwneud imi orfoleddu dros fy ngelynion.