Welsh

Psalms

60

1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Susan Eduth. Michtam, i hyfforddi. I Ddafydd, pan oedd yn ymladd yn erbyn Aram-naharaim ac Aram-soba, a Joab yn dychwelyd ac yn lladd deuddeng mil o Edom yn Nyffryn yr Halen.0 O Dduw, gwrthodaist ni a'n bylchu; buost yn ddicllon. Adfer ni! 2 Gwnaethost i'r ddaear grynu ac fe'i holltaist; trwsia ei rhwygiadau, oherwydd y mae'n gwegian. 3 Gwnaethost i'th bobl yfed peth chwerw, a rhoist inni win a'n gwna'n simsan. 4 Rhoist faner i'r rhai sy'n dy ofni, iddynt ffoi ati rhag y bwa. Sela. 5 Er mwyn gwaredu dy anwyliaid, achub �'th ddeheulaw, ac ateb ni. 6 Llefarodd Duw yn ei gysegr, "Yr wyf yn gorfoleddu wrth rannu Sichem 7 a mesur dyffryn Succoth yn rhannau; eiddof fi yw Gilead a Manasse, Effraim yw fy helm, a Jwda yw fy nheyrnwialen; 8 Moab yw fy nysgl ymolchi, ac at Edom y taflaf fy esgid; ac yn erbyn Philistia y gorfoleddaf." 9 Pwy a'm dwg i'r ddinas gaerog? Pwy a'm harwain i Edom? 10 Onid ti, O Dduw, er iti'n gwrthod, a pheidio � mynd allan gyda'n byddinoedd? 11 Rho inni gymorth rhag y gelyn, oherwydd ofer yw ymwared dynol. 12 Gyda Duw fe wnawn wrhydri; ef fydd yn sathru ein gelynion.