Welsh

Psalms

61

1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar offerynnau llinynnol. I Ddafydd.0 Clyw fy nghri, O Dduw, a gwrando ar fy ngweddi; 2 o eithaf y ddaear yr wyf yn galw arnat, pan yw fy nghalon ar suddo. Arwain fi at graig sy'n uwch na mi; 3 oherwydd buost ti'n gysgod imi, yn du373?r cadarn rhag y gelyn. 4 Gad imi aros yn dy babell am byth, a llochesu dan gysgod dy adenydd. Sela. 5 Oherwydd clywaist ti, O Dduw, fy addunedau, a gwnaethost ddymuniad y rhai sy'n ofni dy enw. 6 Estyn ddyddiau lawer at oes y brenin, a bydded ei flynyddoedd fel cenedlaethau; 7 bydded wedi ei orseddu gerbron Duw am byth; bydded cariad a gwirionedd yn gwylio drosto. 8 Felly y canmolaf dy enw byth, a thalu fy addunedau ddydd ar �l dydd.