Welsh

Psalms

62

1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Jeduthun. Salm. I Ddafydd.0 Yn wir, yn Nuw yr ymdawela fy enaid; oddi wrtho ef y daw fy ngwaredigaeth. 2 Ef yn wir yw fy nghraig a'm gwaredigaeth, fy amddiffynfa, fel na'm symudir. 3 Am ba hyd yr ymosodwch ar ddyn, bob un ohonoch, a'i falurio, fel mur wedi gogwyddo a chlawdd ar syrthio? 4 Yn wir, cynlluniant i'w dynnu i lawr o'i safle, ac y maent yn ymhyfrydu mewn twyll; y maent yn bendithio �'u genau, ond ynddynt eu hunain yn melltithio. Sela. 5 Yn wir, yn Nuw yr ymdawela fy enaid; oddi wrtho ef y daw fy ngobaith. 6 Ef yn wir yw fy nghraig a'm gwaredigaeth, fy amddiffynfa, fel na'm symudir. 7 Ar Dduw y dibynna fy ngwaredigaeth a'm hanrhydedd; fy nghraig gadarn, fy noddfa yw Duw. 8 Ymddiriedwch ynddo bob amser, O bobl, tywalltwch allan eich calon iddo; Duw yw ein noddfa. Sela. 9 Yn wir, nid yw gwr�ng ond anadl, nid yw bonedd ond rhith; pan roddir hwy mewn clorian, codant � y maent i gyd yn ysgafnach nag anadl. 10 Peidiwch ag ymddiried mewn gormes, na gobeithio'n ofer mewn lladrad; er i gyfoeth amlhau, peidiwch � gosod eich bryd arno. 11 Unwaith y llefarodd Duw, dwywaith y clywais hyn: I Dduw y perthyn nerth, 12 i ti, O Arglwydd, y perthyn ffyddlondeb; yr wyt yn talu i bob un yn �l ei weithredoedd.