1 1 Salm. I Ddafydd, pan oedd yn anialwch Jwda.0 O Dduw, ti yw fy Nuw, fe'th geisiaf di; y mae fy enaid yn sychedu amdanat, a'm cnawd yn dihoeni o'th eisiau, fel tir sych a diffaith heb ddu373?r. 2 Fel hyn y syllais arnat yn y cysegr, a gweld dy rym a'th ogoniant. 3 Y mae dy ffyddlondeb yn well na bywyd; am hynny bydd fy ngwefusau'n dy foliannu. 4 Fel hyn y byddaf yn dy fendithio trwy fy oes, ac yn codi fy nwylo mewn gweddi yn dy enw. 5 Caf fy nigoni, fel pe ar f�r a braster, a moliannaf di � gwefusau llawen. 6 Pan gofiaf di ar fy ngwely, a myfyrio amdanat yng ngwyliadwriaethau'r nos � 7 fel y buost yn gymorth imi, ac fel yr arhosais yng nghysgod dy adenydd � 8 bydd fy enaid yn glynu wrthyt; a bydd dy ddeheulaw yn fy nghynnal. 9 Ond am y rhai sy'n ceisio difetha fy mywyd, byddant hwy'n suddo i ddyfnderau'r ddaear; 10 fe'u tynghedir i fin y cleddyf, a byddant yn ysglyfaeth i lwynogod. 11 Ond bydd y brenin yn llawenhau yn Nuw, a bydd pawb sy'n tyngu iddo ef yn gorfoleddu, oherwydd caeir safnau'r rhai celwyddog.