1 1 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 Clyw fy llais, O Dduw, wrth imi gwyno; achub fy mywyd rhag arswyd y gelyn, 2 cuddia fi rhag cynllwyn rhai drygionus a rhag dichell gwneuthurwyr drygioni � 3 rhai sy'n hogi eu tafod fel cleddyf, ac yn anelu eu geiriau chwerw fel saethau, 4 i saethu'r dieuog o'r dirgel, i saethu'n sydyn a di-ofn. 5 Y maent yn glynu wrth eu bwriad drwg, ac yn s�n am osod maglau o'r golwg, a dweud, "Pwy all ein gweld?" 6 Y maent yn dyfeisio drygioni, ac yn cuddio'u dyfeisiadau; y mae'r galon a'r meddwl dynol yn ddwfn! 7 Ond bydd Duw'n eu saethu �'i saeth; yn sydyn y daw eu cwymp. 8 Bydd yn eu dymchwel oherwydd eu tafod, a bydd pawb sy'n eu gweld yn ysgwyd eu pennau. 9 Daw ofn ar bawb, a byddant yn adrodd am waith Duw, ac yn deall yr hyn a wnaeth. 10 Bydded i'r cyfiawn lawenhau yn yr ARGLWYDD, a llochesu ynddo, a bydded i'r holl rai uniawn orfoleddu.