Welsh

Psalms

65

1 1 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd. C�n.0 Mawl sy'n ddyledus i ti, O Dduw, yn Seion; 2 ac i ti, sy'n gwrando gweddi, y telir adduned. 3 Atat ti y daw pob un �'i gyffes o bechod: "Y mae ein troseddau'n drech na ni, ond yr wyt ti'n eu maddau." 4 Gwyn ei fyd y sawl a ddewisi ac a ddygi'n agos, iddo gael preswylio yn dy gynteddau; digoner ninnau � daioni dy du375?, dy deml sanctaidd. 5 Mewn gweithredoedd ofnadwy yr atebi ni � buddugoliaeth, O Dduw ein hiachawdwriaeth; ynot yr ymddiried holl gyrion y ddaear a phellafoedd y m�r; 6 gosodi'r mynyddoedd yn eu lle �'th nerth, yr wyt wedi dy wregysu � chryfder; 7 yr wyt yn tawelu rhu'r moroedd, rhu eu tonnau, a therfysg pobloedd. 8 Y mae trigolion cyrion y byd yn ofni dy arwyddion; gwnei i diroedd bore a hwyr lawenhau. 9 Rwyt yn gofalu am y ddaear ac yn ei dyfrhau, gwnaethost hi'n doreithiog iawn; y mae afon Duw'n llawn o ddu373?r; darperaist iddynt u375?d. Fel hyn yr wyt yn trefnu ar ei chyfer: 10 dyfrhau ei rhychau, gwastat�u ei chefnau, ei mwydo � chawodydd a bendithio'i chnwd. 11 Yr wyt yn coroni'r flwyddyn �'th ddaioni, ac y mae dy lwybrau'n diferu gan fraster. 12 Y mae porfeydd yr anialdir yn diferu, a'r bryniau wedi eu gwregysu � llawenydd; 13 y mae'r dolydd wedi eu gwisgo � defaid, a'r dyffrynnoedd wedi eu gorchuddio ag u375?d. Y maent yn bloeddio ac yn gorfoleddu.