1 1 I Solomon.0 O Dduw, rho dy farnedigaeth i'r brenin, a'th gyfiawnder i fab y brenin. 2 Bydded iddo farnu dy bobl yn gyfiawn, a'th rai anghenus yn gywir. 3 Doed y mynyddoedd � heddwch i'r bobl, a'r bryniau � chyfiawnder. 4 Bydded iddo amddiffyn achos tlodion y bobl, a gwaredu'r rhai anghenus, a dryllio'r gorthrymwr. 5 Bydded iddo fyw tra bo haul a chyhyd �'r lleuad, o genhedlaeth i genhedlaeth. 6 Bydded fel glaw yn disgyn ar gnwd, ac fel cawodydd yn dyfrhau'r ddaear. 7 Bydded cyfiawnder yn llwyddo yn ei ddyddiau, a heddwch yn ffynnu tra bo lleuad. 8 Bydded iddo lywodraethu o f�r i f�r, ac o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear. 9 Bydded i'w wrthwynebwyr blygu o'i flaen, ac i'w elynion lyfu'r llwch. 10 Bydded i frenhinoedd Tarsis a'r ynysoedd ddod ag anrhegion iddo, ac i frenhinoedd Sheba a Seba gyflwyno eu teyrnged. 11 Bydded i'r holl frenhinoedd ymostwng o'i flaen, ac i'r holl genhedloedd ei wasanaethu. 12 Oherwydd y mae'n gwaredu'r anghenus pan lefa, a'r tlawd pan yw heb gynorthwywr. 13 Y mae'n tosturio wrth y gwan a'r anghenus, ac yn gwaredu bywyd y tlodion. 14 Y mae'n achub eu bywyd rhag trais a gorthrwm, ac y mae eu gwaed yn werthfawr yn ei olwg. 15 Hir oes fo iddo, a rhodder iddo aur o Sheba; aed gweddi i fyny ar ei ran yn wastad, a chaffed ei fendithio bob amser. 16 Bydded digonedd o u375?d yn y wlad, yn tyfu hyd at bennau'r mynyddoedd; a bydded ei gnwd yn cynyddu fel Lebanon, a'i rawn fel gwellt y maes. 17 Bydded ei enw'n aros hyd byth, ac yn para cyhyd �'r haul; a'r holl genhedloedd yn cael bendith ynddo ac yn ei alw'n fendigedig. 18 Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel; ef yn unig sy'n gwneud rhyfeddodau. 19 Bendigedig fyddo'i enw gogoneddus hyd byth, a bydded yr holl ddaear yn llawn o'i ogoniant. Amen ac Amen. 20 Diwedd gwedd�au Dafydd fab Jesse.