Welsh

Psalms

73

1 1 Salm. I Asaff.0 Yn sicr, da yw Duw i'r uniawn, a'r Arglwydd i'r rhai pur o galon. 2 Yr oedd fy nhraed bron � baglu, a bu ond y dim i'm gwadnau lithro, 3 am fy mod yn cenfigennu wrth y trahaus ac yn eiddigeddus o lwyddiant y drygionus. 4 Oherwydd nid oes ganddynt hwy ofidiau; y mae eu cyrff yn iach a graenus. 5 Nid ydynt hwy mewn helynt fel pobl eraill, ac nid ydynt hwy'n cael eu poenydio fel eraill. 6 Am hynny, y mae balchder yn gadwyn am eu gyddfau, a thrais yn wisg amdanynt. 7 Y mae eu llygaid yn disgleirio o fraster, a'u calonnau'n gorlifo o ffolineb. 8 Y maent yn gwawdio ac yn siarad yn ddichellgar, yn s�n yn ffroenuchel am ormes. 9 Gosodant eu genau yn erbyn y nefoedd, ac y mae eu tafod yn tramwyo'r ddaear. 10 Am hynny, y mae'r bobl yn troi atynt, ac ni ch�nt unrhyw fai ynddynt. 11 Dywedant, "Sut y mae Duw'n gwybod? A oes gwybodaeth gan y Goruchaf?" 12 Edrych, dyma hwy y rhai drygionus � bob amser mewn esmwythyd ac yn casglu cyfoeth. 13 Yn gwbl ofer y cedwais fy nghalon yn l�n, a golchi fy nwylo am fy mod yn ddieuog; 14 ar hyd y dydd yr wyf wedi fy mhoenydio, ac fe'm cosbir bob bore. 15 Pe buaswn wedi dweud, "Fel hyn y siaradaf", buaswn wedi bradychu cenhedlaeth dy blant. 16 Ond pan geisiais ddeall hyn, yr oedd yn rhy anodd i mi, 17 nes imi fynd i gysegr Duw; yno y gwelais eu diwedd. 18 Yn sicr, yr wyt yn eu gosod ar fannau llithrig, ac yn gwneud iddynt syrthio i ddistryw. 19 Fe �nt i ddinistr ar amrantiad, fe'u cipir yn llwyr gan ddychrynfeydd. 20 Fel breuddwyd ar �l ymysgwyd, y maent wedi mynd; wrth ddeffro fe'u diystyrir fel hunllef. 21 Pan oedd fy nghalon yn chwerw a'm coluddion wedi eu trywanu, 22 yr oeddwn yn ddwl a diddeall, ac yn ymddwyn fel anifail tuag atat. 23 Er hynny, yr wyf gyda thi bob amser; yr wyt yn cydio yn fy neheulaw. 24 Yr wyt yn fy arwain �'th gyngor, ac yna'n fy nerbyn mewn gogoniant. 25 Pwy sydd gennyf yn y nefoedd ond ti? Ac nid wyf yn dymuno ond tydi ar y ddaear. 26 Er i'm calon a'm cnawd ballu, eto y mae Duw yn gryfder i'm calon ac yn rhan imi am byth. 27 Yn wir, fe ddifethir y rhai sy'n bell oddi wrthyt, a byddi'n dinistrio'r rhai sy'n anffyddlon i ti. 28 Ond da i mi yw bod yn agos at Dduw; yr wyf wedi gwneud yr Arglwydd DDUW yn gysgod i mi, er mwyn imi fynegi dy ryfeddodau.