Welsh

Psalms

74

1 1 Masc�l. I Asaff.0 Pam, Dduw, y bwriaist ni ymaith am byth? Pam y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa? 2 Cofia dy gynulleidfa a brynaist gynt, y llwyth a waredaist yn etifeddiaeth iti, a Mynydd Seion lle'r oeddit yn trigo. 3 Cyfeiria dy draed at yr adfeilion bythol; dinistriodd y gelyn bopeth yn y cysegr. 4 Rhuodd dy elynion yng nghanol dy gysegr, a gosod eu harwyddion eu hunain yn arwyddion yno. 5 Y maent wedi malurio, fel coedwigwyr yn chwifio'u bwyeill mewn llwyn o goed. 6 Rhwygasant yr holl waith cerfiedig a'i falu � bwyeill a morthwylion. 7 Rhoesant dy gysegr ar d�n, a halogi'n llwyr breswylfod dy enw. 8 Dywedasant ynddynt eu hunain, "Difodwn hwy i gyd"; llosgasant holl gysegrau Duw trwy'r tir. 9 Ni welwn arwyddion i ni, nid oes proffwyd mwyach; ac nid oes yn ein plith un a u373?yr am ba hyd. 10 Am ba hyd, O Dduw, y gwawdia'r gwrthwynebwr? A yw'r gelyn i ddifr�o dy enw am byth? 11 Pam yr wyt yn atal dy law, ac yn cuddio dy ddeheulaw yn dy fynwes? 12 Ond ti, O Dduw, yw fy mrenin erioed, yn gweithio iachawdwriaeth ar y ddaear. 13 Ti, �'th nerth, a rannodd y m�r, torraist bennau'r dreigiau yn y dyfroedd. 14 Ti a ddrylliodd bennau Lefiathan, a'i roi'n fwyd i fwystfilod y m�r. 15 Ti a agorodd ffynhonnau ac afonydd, a sychu'r dyfroedd di-baid. 16 Eiddot ti yw dydd a nos, ti a sefydlodd oleuni a haul. 17 Ti a osododd holl derfynau daear, ti a drefnodd haf a gaeaf. 18 Cofia, O ARGLWYDD, fel y mae'r gelyn yn gwawdio, a phobl ynfyd yn difr�o dy enw. 19 Paid � rhoi dy golomen i'r bwystfilod, nac anghofio bywyd dy drueiniaid am byth. 20 Rho sylw i'th gyfamod, oherwydd y mae cuddfannau'r ddaear yn llawn ac yn gartref i drais. 21 Paid � gadael i'r gorthrymedig droi ymaith yn ddryslyd; bydded i'r tlawd a'r anghenus glodfori dy enw. 22 Cyfod, O Dduw, i ddadlau dy achos; cofia fel y mae'r ynfyd yn dy wawdio'n wastad. 23 Paid ag anghofio crechwen dy elynion, a chrochlefain cynyddol dy wrthwynebwyr.