Welsh

Psalms

76

1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar offerynnau llinynnol. Salm. I Asaff. C�n.0 Y mae Duw'n adnabyddus yn Jwda, a'i enw'n fawr yn Israel; 2 y mae ei babell wedi ei gosod yn Salem, a'i gartref yn Seion. 3 Yno fe faluriodd y saethau tanllyd, y darian, y cleddyf a'r arfau rhyfel. Sela. 4 Ofnadwy wyt ti, a chryfach na'r mynyddoedd tragwyddol. 5 Ysbeiliwyd y rhai cryf o galon, y maent wedi suddo i gwsg, a phallodd nerth yr holl ryfelwyr. 6 Gan dy gerydd di, O Dduw Jacob, syfrdanwyd y marchog a'r march. 7 Ofnadwy wyt ti. Pwy a all sefyll o'th flaen pan fyddi'n ddig? 8 Yr wyt wedi cyhoeddi dedfryd o'r nefoedd; ofnodd y ddaear a distewi 9 pan gododd Duw i farnu, ac i waredu holl drueiniaid y ddaear. Sela. 10 Bydd Edom, er ei ddig, yn dy foliannu, a gweddill Hamath yn cadw gu373?yl i ti. 11 Gwnewch eich addunedau i'r ARGLWYDD eich Duw, a'u talu; bydded i bawb o'i amgylch ddod � rhoddion i'r un ofnadwy. 12 Y mae'n dryllio ysbryd tywysogion, ac yn arswyd i frenhinoedd y ddaear.