1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Jeduthun. I Asaff. Salm.0 Gwaeddais yn uchel ar Dduw, yn uchel ar Dduw, a chlywodd fi. 2 Yn nydd fy nghyfyngder ceisiais yr Arglwydd, ac yn y nos estyn fy nwylo'n ddiflino; nid oedd cysuro ar fy enaid. 3 Pan feddyliaf am Dduw, yr wyf yn cwyno; pan fyfyriaf, fe balla f'ysbryd. Sela. 4 Cedwaist fy llygaid rhag cau; fe'm syfrdanwyd, ac ni allaf siarad. 5 Af yn �l i'r dyddiau gynt a chofio am y blynyddoedd a fu; 6 meddyliaf ynof fy hun yn y nos, myfyriaf, a'm holi fy hunan, 7 "A wrthyd yr Arglwydd am byth, a pheidio � gwneud ffafr mwyach? 8 A yw ei ffyddlondeb wedi darfod yn llwyr, a'i addewid wedi ei hatal am genedlaethau? 9 A yw Duw wedi anghofio trugarhau? A yw yn ei lid wedi cloi ei dosturi?" Sela. 10 Yna dywedais, "Hyn yw fy ngofid: A yw deheulaw'r Goruchaf wedi pallu? 11 Galwaf i gof weithredoedd yr ARGLWYDD, a chofio am dy ryfeddodau gynt. 12 Meddyliaf am dy holl waith, a myfyriaf am dy weithredoedd. 13 O Dduw, sanctaidd yw dy ffordd; pa dduw sydd fawr fel ein Duw ni? 14 Ti yw'r Duw sy'n gwneud pethau rhyfeddol; dangosaist dy rym ymhlith y bobloedd. 15 �'th fraich gwaredaist dy bobl, disgynyddion Jacob a Joseff. Sela. 16 Gwelodd y dyfroedd di, O Dduw, gwelodd y dyfroedd di ac arswydo; yn wir, yr oedd y dyfnder yn crynu. 17 Tywalltodd y cymylau ddu373?r, ac yr oedd y ffurfafen yn taranu; fflachiodd dy saethau ar bob llaw. 18 Yr oedd su373?n dy daranau yn y corwynt, goleuodd dy fellt y byd; ysgydwodd y ddaear a chrynu. 19 Aeth dy ffordd drwy'r m�r, a'th lwybr trwy ddyfroedd nerthol; ond ni welwyd �l dy gamau. 20 Arweiniaist dy bobl fel praidd, trwy law Moses ac Aaron.