Welsh

Psalms

8

1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar y Gittith. Salm. I Ddafydd.0 O ARGLWYDD, ein I�r, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! Gosodaist dy ogoniant uwch y nefoedd, 2 codaist amddiffyn rhag dy elynion o enau babanod a phlant sugno, a thawelu'r gelyn a'r dialydd. 3 Pan edrychaf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd, y lloer a'r s�r, a roddaist yn eu lle, 4 beth yw meidrolyn, iti ei gofio, a'r teulu dynol, iti ofalu amdano? 5 Eto gwnaethost ef ychydig islaw duw a'i goroni � gogoniant ac anrhydedd. 6 Rhoist iddo awdurdod ar waith dy ddwylo, a gosod popeth dan ei draed: 7 defaid ac ychen i gyd, yr anifeiliaid gwylltion hefyd, 8 adar y nefoedd, a physgod y m�r, a phopeth sy'n tramwyo llwybrau'r dyfroedd. 9 O ARGLWYDD, ein I�r, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!