1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Muth-labben. Salm. I Ddafydd.0 Diolchaf i ti, ARGLWYDD, �'m holl galon, adroddaf am dy ryfeddodau. 2 Llawenhaf a gorfoleddaf ynot ti, canaf fawl i'th enw, y Goruchaf. 3 Pan dry fy ngelynion yn eu holau, baglant a threngi o'th flaen. 4 Gwnaethost yn deg � mi yn fy achos, ac eistedd ar dy orsedd yn farnwr cyfiawn. 5 Ceryddaist y cenhedloedd a difetha'r drygionus, a dileaist eu henw am byth. 6 Darfu am y gelyn mewn adfeilion bythol; yr wyt wedi chwalu eu dinasoedd, a diflannodd y cof amdanynt. 7 Ond y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu am byth, ac wedi paratoi ei orsedd i farn. 8 Fe farna'r byd mewn cyfiawnder, a gwrando achos y bobloedd yn deg. 9 Bydded yr ARGLWYDD yn amddiffynfa i'r gorthrymedig, yn amddiffynfa yn amser cyfyngder, 10 fel y bydd i'r rhai sy'n cydnabod dy enw ymddiried ynot; oherwydd ni adewaist, ARGLWYDD, y rhai sy'n dy geisio. 11 Canwch fawl i'r ARGLWYDD sy'n trigo yn Seion, cyhoeddwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd. 12 Fe gofia'r dialydd gwaed amdanynt; nid yw'n anghofio gwaedd yr anghenus. 13 Bydd drugarog wrthyf, O ARGLWYDD, sy'n fy nyrchafu o byrth angau; edrych ar fy adfyd oddi ar law y rhai sy'n fy nghas�u, 14 imi gael adrodd dy holl fawl a llawenhau yn dy waredigaeth ym mhyrth merch Seion. 15 Suddodd y cenhedloedd i'r pwll a wnaethant eu hunain, daliwyd eu traed yn y rhwyd yr oeddent hwy wedi ei chuddio. 16 Datguddiodd yr ARGLWYDD ei hun, gwnaeth farn; maglwyd y drygionus gan waith ei ddwylo'i hun. Higgaion. Sela. 17 Bydded i'r drygionus ddychwelyd i Sheol, a'r holl genhedloedd sy'n anghofio Duw. 18 Oherwydd nid anghofir y tlawd am byth, ac ni ddryllir gobaith yr anghenus yn barhaus. 19 Cyfod, ARGLWYDD; na threched meidrolion, ond doed y cenhedloedd i farn o'th flaen. 20 Rho arswyd ynddynt, ARGLWYDD, a bydded i'r cenhedloedd wybod mai meidrol ydynt. Sela.