Welsh

Psalms

82

1 1 Salm. I Asaff.0 Y mae Duw yn ei le yn y cyngor dwyfol; yng nghanol y duwiau y mae'n barnu. 2 "Am ba hyd y barnwch yn anghyfiawn, ac y dangoswch ffafr at y drygionus? Sela. 3 Rhowch ddedfryd o blaid y gwan a'r amddifad, gwnewch gyfiawnder �'r truenus a'r diymgeledd. 4 Gwaredwch y gwan a'r anghenus, achubwch hwy o law'r drygionus. 5 "Nid ydynt yn gwybod nac yn deall, ond y maent yn cerdded mewn tywyllwch, a holl sylfeini'r ddaear yn ysgwyd. 6 Fe ddywedais i, 'Duwiau ydych, a meibion i'r Goruchaf bob un ohonoch.' 7 Eto, byddwch farw fel meidrolion, a syrthio fel unrhyw dywysog." 8 Cyfod, O Dduw, i farnu'r ddaear, oherwydd eiddot ti yw'r holl genhedloedd.