Welsh

Psalms

83

1 1 C�n. Salm. I Asaff.0 O Dduw, paid � bod yn ddistaw; paid � thewi nac ymdawelu, O Dduw. 2 Edrych fel y mae dy elynion yn terfysgu, a'r rhai sy'n dy gas�u yn codi eu pennau. 3 Gwn�nt gynlluniau cyfrwys yn erbyn dy bobl, a gosod cynllwyn yn erbyn y rhai a amddiffynni, 4 a dweud, "Dewch, inni eu difetha fel cenedl, fel na chofir enw Israel mwyach." 5 Cytunasant yn unfryd �'i gilydd, a gwneud cynghrair i'th erbyn � 6 pebyll Edom a'r Ismaeliaid, Moab a'r Hagariaid, 7 Gebal, Ammon ac Amalec, Philistia a thrigolion Tyrus; 8 Asyria hefyd a unodd gyda hwy, a chynnal breichiau tylwyth Lot. Sela. 9 Gwna iddynt fel y gwnaethost i Sisera, ac i Jabin wrth nant Cison, 10 ac i Midian, a ddinistriwyd wrth ffynnon Harod a mynd yn dom ar y ddaear. 11 Gwna eu mawrion fel Oreb a Seeb a'u holl dywysogion fel Seba a Salmunna, 12 y rhai a ddywedodd, "Meddiannwn i ni ein hunain holl borfeydd Duw." 13 O fy Nuw, gwna hwy fel hadau hedegog, fel us o flaen gwynt. 14 Fel t�n yn difa coedwig, fel fflamau'n llosgi mynydd, 15 felly yr ymlidi hwy �'th storm, a'u brawychu �'th gorwynt. 16 Gwna eu hwynebau'n llawn cywilydd, er mwyn iddynt geisio dy enw, O ARGLWYDD. 17 Bydded iddynt aros mewn gwarth a chywilydd am byth, ac mewn gwaradwydd difether hwy. 18 Bydded iddynt wybod mai ti yn unig, a'th enw'n ARGLWYDD, yw'r Goruchaf dros yr holl ddaear.