Welsh

Psalms

85

1 1 I'r Cyfarwyddwr: i feibion Cora. Salm.0 O Arglwydd, buost drugarog wrth dy dir; adferaist lwyddiant i Jacob. 2 Maddeuaist gamwedd dy bobl, a dileu eu holl bechod. Sela. 3 Tynnaist dy holl ddigofaint yn �l, a throi oddi wrth dy lid mawr. 4 Adfer ni eto, O Dduw ein hiachawdwriaeth, a rho heibio dy ddicter tuag atom. 5 A fyddi'n digio wrthym am byth, ac yn dal dig atom am genedlaethau? 6 Oni fyddi'n ein hadfywio eto, er mwyn i'th bobl lawenhau ynot? 7 Dangos i ni dy ffyddlondeb, O ARGLWYDD, a rho dy waredigaeth inni. 8 Bydded imi glywed yr hyn a lefara'r Arglwydd DDUW, oherwydd bydd yn cyhoeddi heddwch i'w bobl ac i'w ffyddloniaid, rhag iddynt droi drachefn at ffolineb. 9 Yn wir, y mae ei waredigaeth yn agos at y rhai sy'n ei ofni, fel bod gogoniant yn aros yn ein tir. 10 Bydd cariad a gwirionedd yn cyfarfod, a chyfiawnder a heddwch yn cusanu ei gilydd. 11 Bydd ffyddlondeb yn tarddu o'r ddaear, a chyfiawnder yn edrych i lawr o'r nefoedd. 12 Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi daioni, a'n tir yn rhoi ei gnwd. 13 Bydd cyfiawnder yn mynd o'i flaen, a heddwch yn dilyn yn �l ei droed.