1 1 Gweddi. I Ddafydd.0 Tro dy glust ataf, ARGLWYDD, ac ateb fi, oherwydd tlawd ac anghenus ydwyf. 2 Arbed fy mywyd, oherwydd teyrngar wyf fi; gwared dy was sy'n ymddiried ynot. 3 Ti yw fy Nuw; bydd drugarog wrthyf, O Arglwydd, oherwydd arnat ti y gwaeddaf trwy'r dydd. 4 Llawenha enaid dy was, oherwydd atat ti, Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid. 5 Yr wyt ti, Arglwydd, yn dda a maddeugar, ac yn llawn trugaredd i bawb sy'n galw arnat. 6 Clyw, O ARGLWYDD, fy ngweddi, a gwrando ar fy ymbil. 7 Yn nydd fy nghyfyngder galwaf arnat, oherwydd yr wyt ti yn fy ateb. 8 Nid oes neb fel ti ymhlith y duwiau, O Arglwydd, ac nid oes gweithredoedd fel dy rai di. 9 Bydd yr holl genhedloedd a wnaethost yn dod ac yn ymgrymu o'th flaen, O Arglwydd, ac yn anrhydeddu dy enw. 10 Oherwydd yr wyt ti yn fawr ac yn gwneud rhyfeddodau; ti yn unig sydd Dduw. 11 O ARGLWYDD, dysg i mi dy ffordd, imi rodio yn dy wirionedd; rho imi galon unplyg i ofni dy enw. 12 Clodforaf di �'m holl galon, O Arglwydd fy Nuw, ac anrhydeddaf dy enw hyd byth. 13 Oherwydd mawr yw dy ffyddlondeb tuag ataf, a gwaredaist fy mywyd o Sheol isod. 14 O Dduw, cododd gwu375?r trahaus yn f'erbyn, ac y mae criw didostur yn ceisio fy mywyd, ac nid ydynt yn meddwl amdanat ti. 15 Ond yr wyt ti, O Arglwydd, yn Dduw trugarog a graslon, araf i ddigio, a llawn cariad a gwirionedd. 16 Tro ataf, a bydd drugarog, rho dy nerth i'th was, a gwared un o hil dy weision. 17 Rho imi arwydd o'th ddaioni, a bydded i'r rhai sy'n fy nghas�u weld a chywilyddio, am i ti, ARGLWYDD, fy nghynorthwyo a'm cysuro.