Welsh

Psalms

90

1 1 Gweddi. I Moses, gu373?r Duw.0 Arglwydd, buost yn amddiffynfa i ni ymhob cenhedlaeth. 2 Cyn geni'r mynyddoedd, a chyn esgor ar y ddaear a'r byd, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ti sydd Dduw. 3 Yr wyt yn troi pobl yn �l i'r llwch, ac yn dweud, "Trowch yn �l, chwi feidrolion." 4 Oherwydd y mae mil o flynyddoedd yn dy olwg fel doe sydd wedi mynd heibio, ac fel gwyliadwriaeth yn y nos. 5 Yr wyt yn eu sgubo ymaith fel breuddwyd; y maent fel gwellt yn adfywio yn y bore � 6 yn tyfu ac yn adfywio yn y bore, ond erbyn yr hwyr yn gwywo ac yn crino. 7 Oherwydd yr ydym ni yn darfod gan dy ddig, ac wedi'n brawychu gan dy gynddaredd. 8 Gosodaist ein camweddau o'th flaen, ein pechodau dirgel yng ngoleuni dy wyneb. 9 Y mae ein holl ddyddiau'n mynd heibio dan dy ddig, a'n blynyddoedd yn darfod fel ochenaid. 10 Deng mlynedd a thrigain yw blynyddoedd ein heinioes, neu efallai bedwar ugain trwy gryfder, ond y mae eu hyd yn faich ac yn flinder; �nt heibio yn fuan, ac ehedwn ymaith. 11 Pwy sy'n gwybod grym dy ddicter, a'th ddigofaint, fel y rhai sy'n dy ofni? 12 Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau, inni gael calon ddoeth. 13 Dychwel, O ARGLWYDD. Am ba hyd? Trugarha wrth dy weision. 14 Digona ni yn y bore �'th gariad, inni gael gorfoleddu a llawenhau ein holl ddyddiau. 15 Rho inni lawenydd gynifer o ddyddiau ag y blinaist ni, gynifer o flynyddoedd ag y gwelsom ddrygfyd. 16 Bydded dy weithredoedd yn amlwg i'th weision, a'th ogoniant i'w plant. 17 Bydded trugaredd yr Arglwydd ein Duw arnom; llwydda waith ein dwylo inni, llwydda waith ein dwylo.