1 Y mae'r sawl sy'n byw yn lloches y Goruchaf, ac yn aros yng nghysgod yr Hollalluog, 2 yn dweud wrth yr ARGLWYDD, "Fy noddfa a'm caer, fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo." 3 Oherwydd bydd ef yn dy waredu o fagl heliwr, ac oddi wrth bla difaol; 4 bydd yn cysgodi drosot �'i esgyll, a chei nodded dan ei adenydd; bydd ei wirionedd yn darian a bwcled. 5 Ni fyddi'n ofni rhag dychryn y nos, na rhag saeth yn hedfan yn y dydd, 6 rhag pla sy'n tramwyo yn y tywyllwch, na rhag dinistr sy'n difetha ganol dydd. 7 Er i fil syrthio wrth dy ochr, a deng mil ar dy ddeheulaw, eto ni chyffyrddir � thi. 8 Ni fyddi ond yn edrych �'th lygaid ac yn gweld t�l y drygionus. 9 Ond i ti, bydd yr ARGLWYDD yn noddfa; gwnaethost y Goruchaf yn amddiffynfa; 10 ni ddigwydd niwed i ti, ac ni ddaw pla yn agos i'th babell. 11 Oherwydd rhydd orchymyn i'w angylion i'th gadw yn dy holl ffyrdd; 12 byddant yn dy godi ar eu dwylo rhag iti daro dy droed yn erbyn carreg. 13 Byddi'n troedio ar y llew a'r asb, ac yn sathru'r llew ifanc a'r sarff. 14 "Am iddo lynu wrthyf, fe'i gwaredaf; fe'i diogelaf am ei fod yn adnabod fy enw. 15 Pan fydd yn galw arnaf, fe'i hatebaf; byddaf fi gydag ef mewn cyfyngder, gwaredaf ef a'i anrhydeddu. 16 Digonaf ef � hir ddyddiau, a gwnaf iddo fwynhau fy iachawdwriaeth."