Welsh

Psalms

92

1 1 Salm. C�n. Ar gyfer y Saboth.0 Da yw moliannu'r ARGLWYDD, a chanu mawl i'th enw di, y Goruchaf, 2 a chyhoeddi dy gariad yn y bore a'th ffyddlondeb bob nos, 3 gyda'r dectant a'r nabl a chyda chordiau'r delyn. 4 Oherwydd yr wyt ti, O ARGLWYDD, wedi fy llawenychu �'th waith; yr wyf yn gorfoleddu yng ngweithgarwch dy ddwylo. 5 Mor fawr yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD, a dwfn iawn dy feddyliau! 6 Un dwl yw'r sawl sydd heb wybod, a ffu373?l yw'r un sydd heb ddeall hyn: 7 er i'r annuwiol dyfu fel glaswellt ac i'r holl wneuthurwyr drygioni lwyddo, eu bod i'w dinistrio am byth, 8 ond dy fod ti, ARGLWYDD, yn dragwyddol ddyrchafedig. 9 Oherwydd wele, dy elynion, ARGLWYDD, wele, dy elynion a ddifethir, a'r holl wneuthurwyr drygioni a wasgerir. 10 Codaist i fyny fy nghorn fel corn ych, ac eneiniaist fi ag olew croyw. 11 Ymhyfrydodd fy llygaid yng nghwymp fy ngelynion, a'm clustiau wrth glywed am y rhai drygionus a gododd yn f'erbyn. 12 Y mae'r cyfiawn yn blodeuo fel palmwydd, ac yn tyfu fel cedrwydd Lebanon. 13 Y maent wedi eu plannu yn nhu375?'r ARGLWYDD, ac yn blodeuo yng nghynteddau ein Duw. 14 Rh�nt ffrwyth hyd yn oed mewn henaint, a pharh�nt yn wyrdd ac iraidd. 15 Cyhoeddant fod yr ARGLWYDD yn uniawn, ac am fy nghraig, nad oes anghyfiawnder ynddo.