1 Y mae'r ARGLWYDD yn frenin; y mae wedi ei wisgo � mawredd, y mae'r ARGLWYDD wedi ei wisgo, a nerth yn wregys iddo. Yn wir, y mae'r byd yn sicr, ac nis symudir; 2 y mae dy orsedd wedi ei sefydlu erioed; yr wyt ti er tragwyddoldeb. 3 Cododd y dyfroedd, O ARGLWYDD, cododd y dyfroedd eu llais, cododd y dyfroedd eu rhu. 4 Cryfach na su373?n dyfroedd mawrion, cryfach na thonnau'r m�r, yw'r ARGLWYDD yn yr uchelder. 5 Y mae dy dystiolaethau'n sicr iawn; sancteiddrwydd sy'n gweddu i'th du375?, O ARGLWYDD, hyd byth.