Welsh

Psalms

94

1 O ARGLWYDD, Dduw dial, Dduw dial, ymddangos. 2 Cyfod, O farnwr y ddaear, rho eu haeddiant i'r balch. 3 Am ba hyd y bydd y drygionus, ARGLWYDD, y bydd y drygionus yn gorfoleddu? 4 Y maent yn tywallt eu parabl trahaus; y mae'r holl wneuthurwyr drygioni'n ymfalch�o. 5 Y maent yn sigo dy bobl, O ARGLWYDD, ac yn poenydio dy etifeddiaeth. 6 Lladdant y weddw a'r estron, a llofruddio'r amddifad, 7 a dweud, "Nid yw'r ARGLWYDD yn gweld, ac nid yw Duw Jacob yn sylwi." 8 Deallwch hyn, chwi'r dylaf o bobl! Ffyliaid, pa bryd y byddwch ddoeth? 9 Onid yw'r un a blannodd glust yn clywed, a'r un a luniodd lygad yn gweld? 10 Onid oes gan yr un sy'n disgyblu cenhedloedd gerydd, a'r un sy'n dysgu pobl wybodaeth? 11 Y mae'r ARGLWYDD yn gwybod meddyliau pobl, mai gwynt ydynt. 12 Gwyn ei fyd y sawl a ddisgybli, O ARGLWYDD, ac a ddysgi allan o'th gyfraith, 13 i roi iddo lonyddwch rhag dyddiau adfyd, nes agor pwll i'r drygionus. 14 Oherwydd nid yw'r ARGLWYDD yn gwrthod ei bobl, nac yn gadael ei etifeddiaeth; 15 oherwydd dychwel barn at y rhai cyfiawn, a bydd yr holl rai uniawn yn ei dilyn. 16 Pwy a saif drosof yn erbyn y drygionus, a sefyll o'm plaid yn erbyn gwneuthurwyr drygioni? 17 Oni bai i'r ARGLWYDD fy nghynorthwyo byddwn yn fuan wedi mynd i dir distawrwydd. 18 Pan oeddwn yn meddwl bod fy nhroed yn llithro, yr oedd dy ffyddlondeb di, O ARGLWYDD, yn fy nghynnal. 19 Er bod pryderon fy nghalon yn niferus, y mae dy gysuron di'n fy llawenhau. 20 A fydd cynghrair rhyngot ti a llywodraeth distryw, sy'n cynllunio niwed trwy gyfraith? 21 Cytunant �'i gilydd am fywyd y cyfiawn, a chondemnio'r dieuog i farw. 22 Ond y mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn i mi, a'm Duw yn graig i'm llochesu. 23 Daw �'u camweddau eu hunain yn �l arnynt, ac fe'u diddyma am eu drygioni. Bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn eu diddymu.