Welsh

Psalms

95

1 Dewch, canwn yn llawen i'r ARGLWYDD, rhown floedd o orfoledd i graig ein hiachawdwriaeth. 2 Down i'w bresenoldeb � diolch, gorfoleddwn ynddo � chaneuon mawl. 3 Oherwydd Duw mawr yw'r ARGLWYDD, a brenin mawr goruwch yr holl dduwiau. 4 Yn ei law ef y mae dyfnderau'r ddaear, ac eiddo ef yw uchelderau'r mynyddoedd. 5 Eiddo ef yw'r m�r, ac ef a'i gwnaeth; ei ddwylo ef a greodd y sychdir. 6 Dewch, addolwn ac ymgrymwn, plygwn ein gliniau gerbron yr ARGLWYDD a'n gwnaeth. 7 Oherwydd ef yw ein Duw, a ninnau'n bobl iddo a defaid ei borfa; heddiw cewch wybod ei rym, os gwrandewch ar ei lais. 8 Peidiwch � chaledu'ch calonnau, fel yn Meriba, fel ar ddiwrnod Massa yn yr anialwch, 9 pan fu i'ch hynafiaid fy herio a'm profi, er iddynt weld fy ngwaith. 10 Am ddeugain mlynedd y ffieiddiais y genhedlaeth honno, a dweud, "Pobl �'u calonnau'n cyfeiliorni ydynt, ac nid ydynt yn gwybod fy ffyrdd." 11 Felly tyngais yn fy nig na chaent ddyfod i'm gorffwysfa.