1 Canwch i'r ARGLWYDD g�n newydd, canwch i'r ARGLWYDD yr holl ddaear. 2 Canwch i'r ARGLWYDD, bendithiwch ei enw, cyhoeddwch ei iachawdwriaeth o ddydd i ddydd. 3 Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd, ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd. 4 Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl; y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau. 5 Eilunod yw holl dduwiau'r bobloedd, ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd. 6 Y mae anrhydedd a mawredd o'i flaen, nerth a gogoniant yn ei gysegr. 7 Rhowch i'r ARGLWYDD, dylwythau'r cenhedloedd, rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd a nerth; 8 rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd ei enw, dygwch offrwm a dewch i'w gynteddoedd. 9 Ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd; crynwch o'i flaen, yr holl ddaear. 10 Dywedwch ymhlith y cenhedloedd, "Y mae'r ARGLWYDD yn frenin"; yn wir, y mae'r byd yn sicr ac nis symudir; bydd ef yn barnu'r bobloedd yn uniawn. 11 Bydded y nefoedd yn llawen a gorfoledded y ddaear; rhued y m�r a'r cyfan sydd ynddo, 12 llawenyched y maes a phopeth sydd ynddo. Yna bydd holl brennau'r goedwig yn canu'n llawen 13 o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n dod, oherwydd y mae'n dod i farnu'r ddaear. Bydd yn barnu'r byd � chyfiawnder, a'r bobloedd �'i wirionedd.