1 Y mae'r ARGLWYDD yn frenin; gorfoledded y ddaear, bydded ynysoedd lawer yn llawen. 2 Y mae cymylau a thywyllwch o'i amgylch, cyfiawnder a barn yn sylfaen i'w orsedd. 3 Y mae t�n yn mynd o'i flaen, ac yn llosgi ei elynion oddi amgylch. 4 Y mae ei fellt yn goleuo'r byd, a'r ddaear yn gweld ac yn crynu. 5 Y mae'r mynyddoedd yn toddi fel cwyr o flaen yr ARGLWYDD, o flaen Arglwydd yr holl ddaear. 6 Y mae'r nefoedd yn cyhoeddi ei gyfiawnder, a'r holl bobloedd yn gweld ei ogoniant. 7 Bydded cywilydd ar yr holl addolwyr delwau sy'n ymffrostio mewn eilunod; ymgrymwch iddo ef, yr holl dduwiau. 8 Clywodd Seion a llawenhau, ac yr oedd trefi Jwda yn gorfoleddu o achos dy farnedigaethau, O ARGLWYDD. 9 Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn oruchaf dros yr holl ddaear; yr wyt wedi dy ddyrchafu'n uwch o lawer na'r holl dduwiau. 10 Y mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n cas�u drygioni, y mae'n cadw bywydau ei ffyddloniaid, ac yn eu gwaredu o ddwylo'r drygionus. 11 Heuwyd goleuni ar y cyfiawn, a llawenydd ar yr uniawn o galon. 12 Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, rai cyfiawn, a moliannwch ei enw sanctaidd.