Welsh

Psalms

98

1 1 Salm.0 Canwch i'r ARGLWYDD g�n newydd, oherwydd gwnaeth ryfeddodau. Cafodd fuddugoliaeth �'i ddeheulaw ac �'i fraich sanctaidd. 2 Gwnaeth yr ARGLWYDD ei fuddugoliaeth yn hysbys, datguddiodd ei gyfiawnder o flaen y cenhedloedd. 3 Cofiodd ei gariad a'i ffyddlondeb tuag at du375? Israel; gwelodd holl gyrrau'r ddaear fuddugoliaeth ein Duw. 4 Bloeddiwch mewn gorfoledd i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear, canwch mewn llawenydd a rhowch fawl. 5 Canwch fawl i'r ARGLWYDD �'r delyn, �'r delyn ac � sain c�n. 6 � thrwmpedau ac � sain utgorn bloeddiwch o flaen y Brenin, yr ARGLWYDD. 7 Rhued y m�r a'r cyfan sydd ynddo, y byd a phawb sy'n byw ynddo. 8 Bydded i'r dyfroedd guro dwylo; bydded i'r mynyddoedd ganu'n llawen gyda'i gilydd 9 o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n dyfod i farnu'r ddaear; bydd yn barnu'r byd � chyfiawnder, a'r bobloedd ag uniondeb.