Welsh

Psalms

99

1 Y mae'r ARGLWYDD yn frenin, cryna'r bobloedd; y mae wedi ei orseddu uwch y cerwbiaid, ysgydwa'r ddaear. 2 Y mae'r ARGLWYDD yn fawr yn Seion, y mae'n ddyrchafedig uwch yr holl bobloedd. 3 Bydded iddynt foli dy enw mawr ac ofnadwy � sanctaidd yw ef. 4 Un cryf sydd frenin; y mae'n caru cyfiawnder. Ti sydd wedi sefydlu uniondeb; gwnaethost farn a chyfiawnder yn Jacob. 5 Dyrchafwch yr ARGLWYDD ein Duw; ymgrymwch o flaen ei droedfainc � sanctaidd yw ef. 6 Yr oedd Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid, a Samuel ymhlith y rhai a alwodd ar ei enw; galwasant ar yr ARGLWYDD, ac atebodd hwy. 7 Llefarodd wrthynt mewn colofn gwmwl; cadwasant ei dystiolaethau a'r ddeddf a roddodd iddynt. 8 O ARGLWYDD, ein Duw, atebaist hwy; Duw yn maddau fuost iddynt, ond yn dial eu camweddau. 9 Dyrchafwch yr ARGLWYDD ein Duw, ymgrymwch yn ei fynydd sanctaidd � sanctaidd yw'r ARGLWYDD ein Duw.